Pêl-Droed Penigamp: Campau Campus
£6.99
Gan / By Robin Bennett | Lluniau gan / Illustrations by Matt Cherry | Addasiad gan / Translation by Elinor Wyn Reynolds
Cyhoeddi Medi 2022 / Publishing September 2022 | ISBN 9781915444233
Pêl-droed Penigamp yw’r ail lyfr yn y gyfres Campau Campus. Efallai mai’r disgrifiad gorau ohonyn nhw yw math o Horrible Histories neu Hanesion Hyll ar gyfer camp sydd â nifer anhygoel o gefnogwyr iddi.
Bydd y gyfrol ar gael ym mis Medi 2022, mewn pryd ar gyfer Cwpan y Byd FIFA ym mis Tachwedd.
Mae’r gyfrol yn dechrau gyda hanes pêl-droed, mae’n disgrifio safleoedd y chwaraewyr, dyfodol y gêm gan gynnwys y cynnydd yn y gêm i fenywod a phwysigrwydd amrywiaeth, ynghyd ag adran ar sgiliau a thriciau.
Bydd gan y gyfrol apêl i gefnogwyr pêl-droed selog, eu rhieni (a’u neiniau a’u teidiau) ond hefyd i ddarllenwyr ifanc sy’n mwynhau darllen pethau difyr, sy’n hoffi darllen pytiau yma ac acw, ac yn union fel y gêm ei hun, bydd y llyfr hwn yn rhywbeth i’w rannu gyda ffrindiau.
Mae Pêl-droed Penigamp yn llyfr i’r tîm cyfan.
Hefyd yn y gyfres Campau Campus: Rygbi Rhempus
Prynwch y fersiwn Saesneg yma / Buy the English version here
17 in stock
Praise for the book
‘I can confirm that Fantastic Football contains the three greatest Fs; FOOTBALL, FUN-FACTS, AND FLIPPIN’ HILARIOUS JOKES.’ Matt Brown