Mae addasiad Cymraeg o nofel gyntaf gyffrous Lee Newbery, The Last Firefox (Y Llwynog Tân Olaf), yn arwain pedwarawd o deitlau a gyhoeddir yr hydref hwn mewn menter newydd gan y cyhoeddwyr annibynnol Cymreig arobryn Firefly Press. Mae’r teitlau yn cynnwys addasiadau o The Clockwork Crow (Y Frân Glocwaith) gan Fardd Llawryfog Pobl Ifanc Cyntaf Cymru Catherine Fisher a’r teitlau ffeithiol Fantastic Football (Pêl-Droed Penigamp) a Rampaging Rugby (Rygbi Rhempus) gan Robin Bennett.

Meddai’r cyhoeddwr Penny Thomas:

“Wedi deg mlynedd o gyflwyno darllenwyr ifanc i ffuglen o safon yn Saesneg rydym bellach ar daith gyffrous i ychwanegu llyfrau Cymraeg i’n catalog gyda’r teitlau bendigedig hyn. Ni allem ofyn am well straeon i ddechrau ‘na ‘Y Llwynog Tân Olaf a Y Frân Glocwaith, ynghyd a hiwmor gwallgof Rygbi Rhempus a Pêl-Droed Penigamp.  Rydyn ni’n falch iawn bod Lee Newbery am ymuno â’n rhestr o awduron ar gyfer ei deitl Cymraeg cyntaf ac yn edrych ymlaen yn fawr at gyhoeddi pedwar llyfr gwych Cymraeg yr hydref hwn!’

“Hoffem ddiolch o galon i’r addasyddion, y dylunwyr a phawb yn y Cyngor Llyfrau a roddodd gefnogaeth wych i’r teitlau hyn.”

Mae Y Llwynog Tân Olaf yn antur ffantasi hudolus o sut mae bachgen yn canfod cryfder mewnol trwy helpu creadur hudol. Mae ‘na ddigonedd o deimlad a hiwmor yn y stori gyntaf hwyliog hon gan Lee Newbery, wedi’i darlunio gan Laura Catalán. Mae wedi’i hanelu at ddarllenwyr ifanc naw oed a hŷn.

Rhyddhawyd y fersiwn Saesneg gan Puffin Books yn gynharach eleni i ganmoliaeth uchel a daeth yn Llyfr y Mis Waterstones.  Mae’r fersiwn Gymraeg wedi’i chyfieithu gan Siân Northey, sy’n cyfleu harddwch y stori dwymgalon hon. Mae’r stori yn dathlu amrywiaeth dynol ac wedi’i hysbrydoli gan brofiad yr awdur o fynd drwy’r broses fabwysiadu gyda’i ŵr.

Dywedodd Lee Newbery:
‘Fel siaradwr Cymraeg, mae hi wastad wedi bod yn uchelgais gennyf i gael un o fy llyfrau ar gael yn y Gymraeg.  Rydw i wrth fy modd bod The Last Firefox wedi dod o hyd i gartref yn Firefly ac wedi dod o hyd i gyfieithydd gwych yn Siân Northey. Fedra’ i ddim aros i weld Y Llwynog Tân Olaf mewn siopau llyfrau, ysgolion a llyfrgelloedd ar draws Cymru ac ar gael yn y ddwy iaith.”

Lee Newbery

Enillodd The Clockwork Crow, gan yr awdur ffuglen a bardd enwog Catherine Fisher, Wobr Tir na n’og a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr Blue Peter. Wedi’i gosod yng nghanolbarth Cymru Fictoraidd llawn eira, mae’n dilyn stori’r plentyn amddifad Seren a’i hanturiaethau hudolus gydag adar sy’n siarad. Nid yw yn siwr os yw’r adar yn dweud y gwir neu beidio. Addaswyd y fersiwn Cymraeg, Y Frân Glocwaith, gan Mared Llwyd.

Fantastic Football (Awst 2022) a Rampaging Rugby (Awst 2021) oedd y ddau gyntaf yng nghyfres Stupendous Sports Firefly gan yr awdur plant a’r entrepreneur Robin Bennett. Mae’r llyfrau hyn yn llawn ffeithiau diddorol, cwestiynau cwis, rheolau a thactegau am y chwaraeon poblogaidd. Maen nhw’n cael eu haddasu gan Elinor Wyn Reynolds (Pêl -droed)  a Ion Thomas(Rygbi).  Dyma anrhegion perffaith i ddiddanu’r teulu adeg gemau pwysig Rygbi a Phêl-droed sy’n cael eu cynnal yr hydref hwn.

Manon Steffan Ros

Dywed yr awdur a chefnogwr pêl-droed Manon Steffan Ros yn ei chyflwyniad i Pêl-Droed Penigamp:

“Mae’r llyfr hwn yn cynnwys llwyth o ffeithiau difyr am bêl-droed nad oeddwn i’n gwybod amdanyn nhw o gwbl—a dwi yn ddipyn o nyrd pêl-droed! Bydd darllen y gyfrol hon yn gwneud ichi swnio’n gallach na chyflwynwyr Sgorio a Match of the Day. Felly mwynhewch y darllen – a gadewch i ni i gyd weiddi C’MON CYMRU!!

Bydd y pedwar teitl ar gael mewn siopau llyfrau, llyfrgelloedd ac i’w harchebu ar-lein o 27 Hydref 2022 drwy https://fireflypress.co.uk

0
    0
    Your Cart
    Your cart is emptyReturn to Shop